Am ei fod yn rhatach, y bws a ddefnyddiai’n teulu ni bob amser. Ond ar ddau achlysur mi ges fynd ar y trên o Abaeraeron i Lanbed, a hynny am yr un rheswm ddwywaith.
Ond yn gyntaf rhaid son am y Pictiwrs. Ar nos Lun a nos Iau roedd y pictiwrs yn cael eu cynnal yn Neuadd Goffa Aberaeron, o dan gyfarwyddyd yr entrepreneur DC Lloyd Birmingham House. Ddwy noson arall byddai’r Cei yn cael yr un dangosiadau a Llanbed un noson a Dydd Sadwrn. Roeddwn i’n cael mynychu’r pictiwrs (un pictiwr bach a un pictiwr mawr, a’r Pathe News yn y canol) un waith yr wythnos.
Ar y ddau achlysur dan sylw, rywbryd tua diwedd y 40au, roedd dau bictiwr arbennig o ddeniadol i’w dangos ar y nos Iau yn Aberaeron, sef Robin Hood a Just William’s Luck. Yr aflwydd oedd eu bod yn clasio gyda’r Gymanfa Ganu. Roedd colli’r Gymanfa wrth gwrs mâs o’r cwestiwn, yn enwedig i fab y gweinidog. Fe drefnodd Mam felly, chwarae teg iddi, drît arbennig i finnau a ’mhennaf ffrind, Eryl Jones, Brodawel, sef trip ar y trên i Lanbed ar Ddydd Sadwrn i weld y ddau bictiwr.
Brith gof sy gen i. Eistedd yn y compartment ac o dro i dro hwpo’n pennau drwy’r ffenest i weld yr injian yn y pen blaen, a chael llond ein llygaid o lwch yn wobr am fod mor ffol. Cafwyd blas anghyffredin ar y ddwy ffilm wrth gwrs.
Ond roedd gan ein teulu ni gysylltiad agos am reswm arall â byd y trên. Drws nesaf i’r Mans yn Wellington Street, yn Gilvin, roedd gyrrwr y trên Mr Griffiths yn byw. Mi fydden yn cael mynd mewn gyda’r nos i gegin Gilvin drwy’r drws ochr. Rwy’n cofio dau beth yn arbennig. Un yw bod Mr Griffiths, yn wahanol i ni, yn cael swper wedi’i goginio ar ôl dod adref o’r gwaith, a’r aroglau amheuthun yn llenwi’r gegin. Yr ail beth oedd Mrs Griffiths yn smwddio crys pêl droed coch â rhif 8 ar ei gefn. Roedd Gordon Griffiths yn chwarae centre-forward yn nhîm amatur Cymru ar y pryd, a’i fam yn gorfod golchi a smwddio’i grys. Roedd ei frawd hŷn Stuart hefyd yn bêldroediwr o fri, yn chwarae, fel Gordon, i Aberystwyth, ond ambell dro i Aberaeron hefyd. Y brodyr Griffiths wrth gwrs oedd ’yn arwyr pennaf i. A diolch i’r trên y ces i’r fraint o fyw drws nesaf iddyn nhw.
Cynog Dafis
Awst 2011