12g. |
Adeiladu Castell Cadwgan, castell o bridd a choed ar yr arfordir. |
15g. |
Crybwyllir Aberaeron mewn cywydd gan Lewis Glyn Cothi. |
1565 |
Crybwyllir Aberaeron mewn arolwg o’r arfordir. |
1693 |
Cofnod cyntaf yng nghofnodion y Cwrt-Lît at Faenor Llyswen (y nesaf yn 1774). |
1748 |
Nid yw siart yr arfordir gan Lewis Morris yn dangos Aberaeron. |
1757 |
Adeiladwyd Aberaeron Uchaf (Dolau Aeron) gan Lewis Gwynne. Caewyd tua 1815, ailadeiladwyd 1852. |
1769 |
Cyfeiriad cynharaf gan ymwelwr at dafarn yn Aberaeron. |
1770 |
Ffurfiwyd y Cwmni Tyrpeg. Mae’n debygol fod tollborth wedi’i godi yn fuan wedyn. |
1774 |
Cofnodion y Cwrt-Lît (cyngor Maenor Llyswen) yn gyflawn tan y 19 ganrif hwyr. |
1783 |
Adeiladwyd y bont uchaf 15 llath o’r hen bont. |
1785 |
Ffurfiwyd y Gymdeithas er Lles Aberaeron. |
1801 |
Siart yr arfordir gan William Morris yn dangos Aberaeron. |
1807 |
Deddf Seneddol yn caniatáu i’r Parchg. Alban Thomas Jones Gwynne wella’r harbwr. |
1807 |
Adeiladwyd Gwesty’r Harbourmaster. |
1809 |
Cwblhau’r pir cyntaf. |
1811 |
Cwblhau’r ail bir. |
1811 |
Adeiladwyd cilgant o bedwar ty (Rhes Mynachdy – Bedlam Barracks) i’r gogledd o geg yr harbwr. |
1813 |
Storm yn difrodi’r pirau newydd. |
1813 |
Adeiladwyd y Bont Isaf newydd (ailadeiladwyd 1881-2). |
c. 1815 |
Adeiladwyd Gwesty’r Plu gan William Lewes o Lanaeron. |
c. 1815 |
Adeiladwyd Ty Pengarreg gan John Atwood, mab yng nghyfraith y Parchg. A T J Gwynne ( yn gynharach os adeiladwyd cyn y ffordd). |
1818 |
Adeiladwyd Ysgol Glan y Môr ar y lan i’r gogledd o geg yr harbwr. |
1819 |
Bu farw’r Parchg. Alban Thomas Jones Gwynne. |
1830 |
Etifeddodd y Cyrnol A T J Gwynne yr ystad pan fu farw ei fam |
c. 1830 |
Sefydlwyd Swyddfa Bost yn y dref. |
1833 |
Adeiladwyd Tabernacl (Methodistiaid Calfinaidd) (helaethwyd 1869). |
1833 |
Adeiladwyd Capel Peniel (Annibynwyr) (ailadeiladwyd 1857, 1897). |
1835 |
Adeiladwyd Capel y Drindod; pensaer Edward Haycock (ailadeiladwyd 1872). |
1839 |
Adeiladwyd y Wyrcws. |
1840au |
Estynnwyd y pier gogleddol i’r gogledd. |
1844 |
Neuadd y Dref (ynadon), adeiladwyd y farchnad a’r carchar. |
1845 |
Arolwg a map y Degwm. |
1848 |
Sefydlwyd yr Ysgol Genedlaethol. |
1861 |
Bu farw’r Cyrnol Alban Thomas Jones Gwynne. |
1863 |
Ffurfiwyd Cwmni Mordwyo Ager Aberayron (yn bodoli tan 1876). |
1864 |
Adeiladwyd Capel Salem (Methodistiaid Wesleaidd) (Eglwys Gatholig 1997). |
1866 |
Pasio deddf yn caniatáu goleuo Aberaeron â nwy. |
1872 |
Adeiladwyd yr Ysgol Brydeinig (y tu ôl i Portland Place). |
1872 |
Agorwyd yr Ysgol Genedlaethol (Cyfrinfa’r Seiri Rhyddion). |
1872 |
Darganfuwyd Ffynnon Chalybeate. |
1872 |
Ailadeiladwyd Eglwyd y Drindod Sanctaidd (ailadeiladwyd y gangell 1897). |
1877 |
Ffurfiwyd Cwmni Paced Longau Aberaeron (bu mewn bodolaeth tan tua 1918). |
1878 |
Adeiladwyd Capel Siloam (Bedyddwyr) (Warws Carpedi) |
1881 |
Difrodwyd y Bont Isaf mewn llif a’i hailadeilu. |
1881 |
Rheilffordd grog yn croesi’r harbwr. Caewyd tua 1931; codwyd un newydd yn 1988, caewyd erbyn 1990. |
1882 |
Ffurfiwyd y Clwb Tennis. |
1884 |
Adeiladwyd y llong olaf, y Cadwgan, yn yr harbwr. |
1888 |
Aberaeron yn dod yn brif dref y sir |
1892 |
20 Medi. Ffurfio Dosbarth Drefol a Dosbarth Wledig Aberaeron |
1898 |
Agorwyd Ysgol y Sir. |
1909 |
Gwaith yn dechrau ar y rheilffordd newydd i Aberaeron, agorwyd yn 1911. |
1911 |
Adeiladwyd y Bont Uchaf newydd i roi mynediad i’r orsaf newydd. |
1925 |
Adeiladwyd y Neuadd Goffa. |
1951 |
Caewyd y rheilffordd ar gyfer teithwyr |
1965 |
Gadawodd y trên nwyddau olaf Aberaeron |
2007 |
Daucanmlwyddiant Deddf Harbwr Abeaeron |